Deuteronomy 29:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae person felly yn clywed amodau'r ymrwymiad yma, ac eto'n dawel fach yn bendithio'i hun a dweud, ‘Bydd popeth yn iawn hyd yn oed os gwna i dynnu'n groes!’ Mae peth felly yn dinistrio'r tir da gyda'r tir sych.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd un felly yn clywed geiriau'r cytundeb hwn trwy lw, yn ei ganmol ei hun yn ei galon ac yn dweud, "Byddaf fi'n ddiogel, er imi rodio yn fy nghyndynrwydd", gwylied; oherwydd ysgubir ymaith y tir a ddyfrhawyd yn ogystal 'r sychdir.