Deuteronomy 29:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni fyn yr ARGLWYDD faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr ARGLWYDD a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r ARGLWYDD a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd yr ARGLWYDD ddim yn maddau i'r person hwnnw. Bydd e'n wyllt gynddeiriog gydag e, a bydd y melltithion sydd yn y sgrôl yma yn dod arno. Bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared ag e'n llwyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yr ARGLWYDD yn anfodlon maddau iddo; yn wir bydd ei ddicter a'i eiddigedd yn cynnau yn erbyn hwnnw, a bydd yr holl felltithion a groniclir yn y llyfr hwn yn disgyn arno. Bydd yr ARGLWYDD yn dileu ei enw oddi tan y nefoedd,