Deuteronomy 29:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a'u dinistriodd hwynt o'u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a'u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn eu diwreiddio nhw, a'i gyrru i wlad arall. Roedd yn flin, ac wedi digio'n lân gyda nhw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dinistriodd yr ARGLWYDD hwy o'u tir mewn digofaint a llid a dicter mawr, a'u bwrw i wlad arall, lle y maent o hyd."