Deuteronomy 3:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel, i Edrei.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yna dyma ni'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn ein herbyn ni yn Edrei.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna troesom a mynd i gyfeiriad Basan. Daeth Og brenin Basan gyda'i holl fyddin i ymladd yn ein herbyn yn Edrei.