Deuteronomy 3:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a'i ddinasoedd ef a roddais i'r Reubeniaid ac i'r Gadiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dyma'r tir wnaethon ni ei gymryd i'r dwyrain o Afon Iorddonen. Dyma fi'n rhoi'r tir sydd i'r gogledd o Aroer, ar ymyl Ceunant Arnon, a hanner bryniau Gilead i lwythau Reuben a Gad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O'r wlad a gymerasom yn feddiant yr adeg honno, rhoddais i Reuben a Gad y tir oedd yn ymestyn o Aroer ar hyd glan nant Arnon, a hanner mynydd-dir Gilead, gyda'i ddinasoedd.