Deuteronomy 3:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD eich DUW a roddes i chwi y wlad hon i'w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny dyma fi'n dweud wrthoch chi, ‘Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi'r tir yma i chi. Ond rhaid i'ch milwyr chi groesi o flaen gweddill pobl Israel, yn barod i ymladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr adeg honno gorchmynnais i chwi, a dweud, "Y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi ichwi'r wlad hon i'w meddiannu; yr ydych chwi'r holl ddynion arfog a chryf i groesi o flaen eich pobl, yr Israeliaid.