Deuteronomy 3:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd pan wnelo'r ARGLWYDD i'ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr ARGLWYDD eich DUW yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i'w etifeddiaeth a roddais i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydd eich dynion yn cael dod yn ôl pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i weddill pobl Israel, fel y gwnaeth gyda chi. Hynny ydy, pan fyddan nhw wedi cymryd drosodd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw yr ochr draw i Afon Iorddonen.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel y rhoddodd i chwi; yna byddant hwythau yn meddiannu'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw iddynt y tu hwnt i'r Iorddonen. Yna caiff pob un ohonoch fynd yn l i'r diriogaeth a roddais i chwi."