Deuteronomy 3:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich DUW i'r ddau frenin hyn: felly y gwna'r ARGLWYDD i'r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A dyma fi'n dweud wrth Josua, ‘Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r ddau frenin yna. Bydd yn gwneud yr un fath i'r teyrnasoedd lle dych chi'n mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr adeg honno hefyd gorchmynnais i Josua a dweud, "Yr wyt wedi gweld 'th lygaid dy hun yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r ddau frenin hyn; bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'r holl deyrnasoedd yr wyt ti yn mynd i'w herbyn.