Deuteronomy 3:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ARGLWYDD DDUW, tydi a ddechreuaist ddangos i'th was dy fawredd, a'th law gadarn; oblegid pa DDUW sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a'th nerthoedd di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘O Feistr, ARGLWYDD, dw i'n dechrau gweld mor fawr ac mor gryf wyt ti! Oes yna dduw arall yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n gallu gwneud pethau mor anhygoel?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"O Arglwydd DDUW, yr wyt wedi dechrau dangos i'th was dy fawredd a'th law gref, oherwydd pa dduw yn y nefoedd neu ar y ddaear sy'n cyflawni gweithredoedd a gorchestion fel dy rai di?