Deuteronomy 3:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua'r gorllewin, a'r gogledd, a'r deau a'r dwyrain, ac edrych arni â'th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cei ddringo i ben Mynydd Pisga, ac edrych ar y wlad i bob cyfeiriad, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi dros yr Iorddonen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dos i ben Pisga, ac edrych i'r gorllewin, y gogledd, y de a'r dwyrain, a sylwa'n fanwl, oherwydd ni chei di groesi'r Iorddonen hon.