Deuteronomy 3:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a'r plant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ni'n gwneud yn union yr un fath ag a wnaethon ni i drefi Sihon, brenin Cheshbon — eu dinistrio nhw i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, hyd yn oed gwragedd a phlant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdasom bawb ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a phlant, fel y gwnaethom i Sihon brenin Hesbon.