Deuteronomy 30:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y'th amlhaer, ac y'th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth dw i'n ei orchymyn i chi ydy i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a chadw ei orchmynion, ei reolau, a'i ganllawiau. Wedyn byddwch chi'n byw ac yn llwyddo, a bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eich bendithio yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf fi heddiw yn gorchymyn iti garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd, a chadw ei orchmynion, ei reolau a'i ddeddfau; yna byddi fyw, a chei amlhau, a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu.