Deuteronomy 30:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I garu ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi garu'r ARGLWYDD eich Duw, gwrando ar beth mae e'n ddweud ac aros yn ffyddlon iddo. Fe ydy'r un sy'n rhoi bywyd, a fe fydd yn eich galluogi chi i fyw yn y wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi, Abraham, Isaac a Jacob.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a gwrando ar ei lais a glynu wrtho; oherwydd ef yw dy fywyd, ac ef fydd yn estyn dy ddyddiau iti gael byw yn y tir yr addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei roi iddynt.