Deuteronomy 31:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda'th dadau; a'r bobl yma a gyfyd, ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a'm gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ti'n mynd i farw cyn bo hir, a bydd y bobl yma'n anffyddlon i mi ac yn addoli duwiau'r wlad maen nhw'n mynd i mewn iddi. Byddan nhw'n troi cefn arna i, ac yn torri'r ymrwymiad dw i wedi ei wneud gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Gyda hyn byddi'n mynd i orwedd gyda'th hynafiaid, a bydd y bobl hyn yn dechrau puteinio ar l duwiau dieithr y wlad y maent yn mynd i mewn iddi; byddant yn fy ngwrthod i, ac yn torri fy nghyfamod a wneuthum hwy.