Deuteronomy 31:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'm dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a'u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a'r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n digio gyda nhw, ac yn troi cefn arnyn nhw, nes byddan nhw wedi eu dinistrio. Bydd lot o drychinebau ac helyntion yn dod arnyn nhw, a byddan nhw'n dweud, ‘Mae'r pethau ofnadwy yma wedi digwydd i ni am fod ein Duw wedi ein gadael ni.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe enynnir fy nig yn eu herbyn, a byddaf finnau yn eu gwrthod ac yn cuddio fy wyneb rhagddynt; byddant yn barod i'w difa, a daw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr. Y diwrnod hwnnw fe ddywedant, 'Onid am nad yw ein Duw yn ein plith y daeth y drygau hyn i'n rhan?'