Deuteronomy 31:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dweud wrthyn nhw, “Dw i'n gant dau ddeg, a ddim yn gallu mynd a dod fel roeddwn i. Ac mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrtho i na fydda i'n croesi'r afon Iorddonen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi bellach yn gant ac ugain oed. Ni fedraf fynd a dod fel yr arferwn wneud, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthyf na chaf groesi'r Iorddonen hon.