Deuteronomy 31:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i'r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i'r tir a addewais trwy lw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn pan fydd y trychinebau a'r helyntion yn dod arnyn nhw bydd y gân yma yn dystiolaeth yn eu herbyn nhw (Bydd eu disgynyddion yn dal i gofio'r gân.) Dw i'n gwybod yn iawn beth sydd ar eu meddyliau nhw, hyd yn oed cyn i mi fynd â nhw i mewn i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, pan ddaw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr, bydd y gerdd hon yn dyst yn eu herbyn; oherwydd nid 'n angof gan eu disgynyddion. Ond gwn beth y maent eisoes yn bwriadu ei wneud, cyn imi eu dwyn i mewn i'r wlad a addewais iddynt."