Deuteronomy 31:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i'r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn comisiynu Josua fab Nwn, “Bydd yn gryf a dewr. Ti sy'n mynd i arwain pobl Israel i'r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Ond bydda i gyda ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhoddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Josua fab Nun a dweud wrtho, "Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i ddod 'r Israeliaid i'r wlad a addewais iddynt; a byddaf fi gyda thi."