Deuteronomy 31:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a'th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw,gwrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n bobl benstiff. Dych chi wedi gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD yr holl amser dw i wedi bod gyda chi, felly sut fyddwch chi ar ôl i mi farw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd gwn mor wrthnysig a gwargaled ydych. Yn wir, os ydych yn wrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD heddiw, a minnau'n dal yn fyw yn eich mysg, pa faint mwy felly y byddwch wedi imi farw!