Deuteronomy 31:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o'r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Ar ôl i mi farw byddwch chi'n sbwylio popeth drwy droi cefn ar y ffordd o fyw dw i wedi ei dysgu i chi. Bydd trychineb yn dod arnoch chi yn y dyfodol o ganlyniad i'r holl ddrwg fyddwch chi'n ei wneud yn pryfocio'r ARGLWYDD i ddigio gyda chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn y byddwch, wedi imi farw, yn ymddwyn yn gwbl lygredig, gan gilio o'r ffordd a orchmynnais ichwi; felly, fe ddaw dinistr ar eich gwarthaf yn y dyddiau sy'n dod, am ichwi wneud yr hyn sy'n ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i ddigio gwaith eich dwylo."