Deuteronomy 31:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned drosodd o'th flaen di; efe a ddinistria'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a thi a'u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o'th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd drosodd o'ch blaen chi. Bydd e'n dinistrio'r cenhedloedd ac yn cymryd eu tir oddi arnyn nhw. Mae e wedi dweud mai Josua fydd yn eich arwain chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ARGLWYDD dy Dduw ei hun fydd yn mynd drosodd ac yn distrywio'r cenhedloedd hyn o'th flaen, a byddi dithau'n meddiannu eu tir dan arweiniad Josua, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.