Deuteronomy 31:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda'r bobl yma i'r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a'i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Moses yn galw Josua ato o flaen pobl Israel, a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr! Ti'n mynd gyda'r bobl yma i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD ei addo i'w hynafiaid nhw. Ti fydd yn eu galluogi nhw i gymryd y tir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Moses alw Josua, dywedodd wrtho gerbron Israel gyfan, "Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i fynd 'r bobl hyn i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'w hynafiaid y byddai'n ei rhoi iddynt; a thi sydd i roi iddynt feddiant ohoni.