Deuteronomy 32:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd DDUW, yr hwn a'i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio — magu bloneg a mynd yn dewach a thewach! Yna troi cefn ar y Duw a'i gwnaeth, a sarhau y Graig wnaeth ei hachub;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni; pesgodd Jesurun, a chiciodd; pesgodd, a thewychu'n wancus. Gwrthododd y Duw a'i creodd, a diystyru Craig ei iachawdwriaeth.