Deuteronomy 32:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gwelodd yr ARGLWYDD, ac a'u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a'i ferched.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a'u gwrthod, am fod ei feibion a'i ferched wedi ei wylltio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy, oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo.