Deuteronomy 32:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai, “Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw, a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Maen nhw'n genhedlaeth anonest, yn blant sydd mor anffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd, "Cuddiaf fy wyneb rhagddynt, edrychaf beth fydd eu diwedd; oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt, plant heb ffyddlondeb ynddynt.