Deuteronomy 32:35 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I mi y perthyn dial, a thalu'r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fi sy'n dial, ac yn talu nôl. Byddan nhw'n llithro — mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw, a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth, pan fydd eu troed yn llithro? Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos, a'u distryw yn brysio atynt.