Deuteronomy 32:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o'm llaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e! Does dim duw arall ar wahân i mi. Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd, awdurdod i anafu ac i iacháu a does neb yn gallu fy stopio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef, ac nad oes Duw ond myfi. Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw, myfi sy'n archolli, ac yn iachu; ni all neb achub o'm gafael i.