Deuteronomy 32:41 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os hogaf fy nghleddyf disglair, ac ymaflyd o'm llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i'm caseion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair, a gafael ynddo i gosbi; Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion, a talu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
os hogaf fy nghleddyf disglair, a chydio ynddo 'm llaw mewn barn, byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyr ac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghasu.