Deuteronomy 32:43 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y cenhedloedd, llawenhewch gyda'i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a'i bobl ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl; bydd yn dial am ladd ei weision. Mae'n mynd i ddial ar y gelynion, a gwneud iawn am beth a wnaethon i'w dir ac i'w bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd, oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision! Daw dial ar ei wrthwynebwyr, ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.