Deuteronomy 32:51 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd gwrthryfelasoch i'm herbyn ymysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni'm sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am ichwi fod yn anffyddlon imi yng nghanol yr Israeliaid wrth ddyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin, trwy beidio mynegi fy sancteiddrwydd ymysg yr Israeliaid.