Deuteronomy 33:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a'th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth ger dy fron, a llosg‐aberth ar dy allor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nhw sy'n dysgu dy ganllawiau i Jacob, a'th gyfarwyddiadau i Israel. Nhw sy'n cyflwyno arogldarth sy'n arogli'n hyfryd, ac offrymau cyflawn ar dy allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n dysgu dy ddeddfau i Jacob a'th gyfraith i Israel. Y mae'n gosod arogldarth ger dy fron, a'r aberth llwyr ar dy allor.