Deuteronomy 33:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr ARGLWYDD a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna meddai am Benjamin: “Bydd yr un sy'n annwyl gan yr ARGLWYDD yn byw yn saff wrth ei ymyl. Bydd Duw yn ei amddiffyn bob amser; bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd am Benjamin: Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch; bydded i'r Goruchaf gysgodi drosto trwy'r dydd, a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.