Deuteronomy 33:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser â phlant: bydded gymeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna meddai am Asher: “Mae Asher wedi ei fendithio fwy na'r lleill! Boed i'w frodyr ddangos ffafr ato, a boed iddo drochi ei draed mewn olew olewydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd am Aser: Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill, a bod yn ffefryn gan ei frodyr, yn trochi ei droed mewn olew.