Deuteronomy 33:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy noddfa yw DUW tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o'th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Duw sydd o'r dechrau'n le diogel, a'i freichiau tragwyddol oddi tanat. Mae wedi gyrru dy elynion ar ffo, ac wedi gorchymyn eu dinistrio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Duw'r oesoedd yw dy noddfa, ac oddi tanodd y mae'r breichiau tragwyddol. Gyrrodd allan y gelyn o'th flaen, a dweud, "Difetha ef."