Deuteronomy 33:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr ARGLWYDD, tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a'th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt wedi dy fendithio, Israel! Oes pobloedd eraill tebyg i ti? — Pobl sydd wedi'ch achub gan yr ARGLWYDD, Fe ydy'r darian sy'n eich amddiffyn, a'r cleddyf gwych sy'n ymladd ar eich ran. Boed i'ch gelynion grynu o'ch blaen, a chithau'n sathru ar eu cefnau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn dy fyd, Israel! Pwy sydd debyg iti, yn bobl a waredir gan yr ARGLWYDD? Ef yw dy darian a'th gymorth, a chleddyf dy orfoledd hefyd. Bydd dy elynion yn ymostwng o'th flaen, a thithau'n sathru ar eu huchel-leoedd.