Deuteronomy 33:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a'i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd wrth ei rieni, ‘Dw i erioed wedi'ch gweld’, wrth ei frodyr a'i chwiorydd, ‘Pwy ydych chi?’, ac wrth ei blant, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi,’ am fod gwneud beth rwyt ti'n ddweud, ac amddiffyn dy ymrwymiad yn bwysicach ganddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddywed am ei dad a'i fam, "Nid wyf yn eu hystyried", ac nid yw'n cydnabod ei frodyr nac yn arddel ei blant. Oherwydd bu'n cadw dy air ac yn gwarchod dy gyfamod.