Deuteronomy 34:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dyma'r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â'th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dyma'r wlad wnes i ei haddo i Abraham, Isaac a Jacob pan ddywedais, ‘Dw i'n mynd i'w rhoi hi i'ch disgynyddion chi.’ Dw i wedi gadael i ti ei gweld, ond dwyt ti ddim yn mynd i gael croesi drosodd yno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dyma'r wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, a dweud, 'Rhoddaf hi i'th ddisgynyddion.' Dangosais hi i ti, ond ni chei fynd trosodd yno."