Deuteronomy 34:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn i Moses farw roedd e wedi gosod ei ddwylo ar Josua fab Nwn, ac roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn. Roedd pobl Israel yn gwrando arno ac yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Josua fab Nun yn llawn o ysbryd doethineb, oherwydd yr oedd Moses wedi gosod ei ddwylo arno; felly gwrandawodd yr Israeliaid arno yntau, a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.