Deuteronomy 4:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i'w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae ARGLWYDD DDUW eich tadau yn ei rhoddi i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bobl Israel, dw i eisiau i chi wrando'n ofalus ar y rheolau a'r canllawiau dw i'n ei gosod i chi, er mwyn i chi gael byw a mynd i mewn i gymryd y wlad mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, O Israel, gwrando ar y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf yn eu dysgu ichwi heddiw; cadwch hwy er mwyn ichwi gael byw a mynd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, yn ei rhoi ichwi.