Deuteronomy 4:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Sef y dydd y sefaist gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, pan ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i'm hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i'w meibion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oeddech chi'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD eich Duw wrth droed Mynydd Sinai, dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Casgla'r bobl at ei gilydd, i mi rannu gyda nhw beth dw i eisiau ei ddweud. Wedyn byddan nhw'n dangos parch ata i, tra byddan nhw'n byw yn y wlad, ac yn dysgu eu plant i wneud yr un fath.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y dydd pan oeddit ti yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb, fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cynnull y bobl ataf, a chyhoeddaf iddynt fy ngeiriau, er mwyn iddynt ddysgu fy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar y ddaear, a bydded iddynt ddysgu eu plant i wneud hyn."