Deuteronomy 4:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i'w wneuthur, sef y dengair; ac a'u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrthoch chi beth oedd yr ymrwymiad roedd e am i chi ei wneud — y Deg Gorchymyn. A dyma fe'n eu hysgrifennu nhw ar ddwy lechen garreg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mynegodd i chwi ei gyfamod, sef y deg gorchymyn yr oedd yn eu gorchymyn i chwi eu cadw, ac ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen.