Deuteronomy 4:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua'r nefoedd, a gweled yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, sef holl lu y nefoedd, a'th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr ARGLWYDD dy DDUW i'r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth edrych i'r awyr ar yr haul, y lleuad a'r sêr i gyd, peidiwch cael eich temtio i'w haddoli nhw. Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi nhw i bawb drwy'r byd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd.