Deuteronomy 4:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi ei wneud gyda chi. Peidiwch cerfio delw o unrhyw fath — mae e wedi dweud yn glir na ddylech chi wneud peth felly.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch ofalus rhag anghofio'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw chwi, a gwneud i chwi eich hunain ddelw gerfiedig ar ffurf unrhyw beth a waharddodd yr ARGLWYDD dy Dduw.