Deuteronomy 4:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD dy DDUW i'w ddigio ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fyddwch chi wedi bod yn y wlad am amser hir, ac wedi cael plant ac wyrion ac wyresau, peidiwch gwneud drwg i'ch hunain drwy gerfio delw o ryw fath. A peidiwch gwneud pethau drwg eraill sy'n pryfocio'r ARGLWYDD eich Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd gennych blant ac wyrion, a chwithau wedi mynd yn hen yn y wlad, os byddwch yn gweithredu'n llygredig trwy wneud delw gerfiedig ar unrhyw ffurf, ac yn gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw ac ennyn ei ddig,