Deuteronomy 4:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a'r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i'w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y'ch difethir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n galw'r nefoedd a'r ddaear yn dystion yn eich erbyn chi — os gwnewch chi hynny byddwch chi'n cael eich taflu allan o'r tir yna dych chi ar fin croesi'r Afon Iorddonen i'w gymryd drosodd. Fyddwch chi ddim yn para'n hir yna, achos byddwch yn cael eich dinistrio'n llwyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna yr adeg honno byddaf yn galw ar y nefoedd a'r ddaear i dystio yn eich erbyn, a byddwch yn sicr o ddiflannu'n gyflym o'r wlad yr ydych wedi croesi'r Iorddonen i'w meddiannu; ni chewch aros yno'n hir, ond fe'ch difethir yn llwyr.