Deuteronomy 4:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt ac nid aroglant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A byddwch chi'n addoli duwiau wedi eu gwneud gan bobl — delwau o bren a charreg sydd ddim yn gallu gweld, clywed, bwyta nac arogli!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna byddwch yn addoli duwiau o waith dwylo dynol, duwiau o bren a cherrig, nad ydynt yn gweld nac yn clywed nac yn bwyta nac yn arogli.