Deuteronomy 4:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o'th flaen di, o'r dydd y creodd DUW ddyn ar y ddaear, ac o'r naill gwr i'r nefoedd hyd y cwr arall i'r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Edrychwch yn ôl dros hanes, o'r dechrau cyntaf pan wnaeth Duw greu pobl ar y ddaear yma. Holwch am unrhyw le drwy'r byd i gyd. Oes unrhyw beth fel yma wedi digwydd o'r blaen? Oes unrhyw un wedi clywed si am y fath beth?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyria'r dyddiau gynt, cyn dy amser di, o'r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, a chwilia'r nefoedd o un cwr i'r llall. A fu peth mor fawr hyn, neu a glywyd am beth tebyg?