Deuteronomy 4:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brofodd un DUW ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich DUW eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu oes duw arall wedi mentro cymryd pobl iddo'i hun o ganol gwlad arall, gan gosbi, cyflawni gwyrthiau rhyfeddol, ac ymladd drostyn nhw gyda'i nerth rhyfeddol, a'r holl bethau dychrynllyd eraill welsoch chi'r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud drosoch chi yn yr Aifft?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A geisiodd unrhyw dduw ddod i gymryd iddo'i hun genedl o ganol cenedl trwy dreialon, arwyddion, rhyfeddodau, a brwydr, ac llaw gadarn a braich estynedig a llawer o bethau arswydus, fel y gwnaeth yr ARGLWYDD eich Duw yn eich gu373?ydd yn yr Aifft?