Deuteronomy 4:40 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cadw dithau ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i'th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi gadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n ei basio ymlaen i chi ganddo heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi a'ch plant. A byddwch chi'n cael byw am amser hir iawn yn y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi i'w gadw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadw ei ddeddfau, a'r gorchmynion yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y bydd yn dda arnat ac ar dy blant ar dy l, ac iti gael oes faith ar y ddaear y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti am byth.