Deuteronomy 4:42 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I gael o'r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o'r blaen; fel y gallai ffoi i un o'r dinasoedd hynny, a byw:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai unrhyw un sy'n lladd person arall yn ddamweiniol, heb fwriadu unrhyw ddrwg iddo, yn gallu dianc am loches i un o'r trefi yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn i'r sawl a fyddai'n lladd ei gymydog yn anfwriadol, heb elyniaeth rhyngddynt yn flaenorol, gael ffoi iddynt. Trwy ffoi i un o'r dinasoedd hyn byddai'n arbed ei fywyd.